Ac yntau’n mesur 1085 o fetrau neu 3559 o droedfeddi, yr Wyddfa yw’r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Caiff miloedd o bobl eu denu i’r mynydd mawreddog hwn bob blwyddyn i gyrraedd y copa un ai ar y trên, drwy gerdded neu ar feic mynydd.
Rheilffordd yr Wyddfa sy’n gweithredu’r trên, sy’n rhedeg ar drac rac a phiniwn yr holl ffordd i’r copa. Mae’r trên fel arfer yn rhedeg o fis Mawrth hyd at ddiwedd mis Hydref, gan ddibynnu ar y tywydd. Archebwch ar-lein i osgoi cael eich siomi.
Mae dringo’r Wyddfa ar droed yn gamp wych i unrhyw un, ond mae’n gofyn am gynllunio a synnwyr cyffredin. Cofiwch y gall y tywydd newid yn sydyn iawn mewn dim o dro. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r offer a’r sgiliau cywir i ddiogelu eich hunain; a chofiwch wneud yn siŵr bod rhywun yn gwybod ble ydych chi’n mynd a faint o’r gloch yr ydych chi’n disgwyl dychwelyd.
It is essential that you keep dogs under control on a suitable lead on all of the routes up Snowdon. Sheep, lambs and wildlife roam free on the mountainside throughout the year.
Mae 6 llwybr i fyny’r Wyddfa ac mae’r ddolen hon https://www.visitsnowdonia.info/ yn adnodd defnyddiol i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod. Mae’n cynnwys gair i gall ar fod yn ddiogel, straeon hanesyddol, gwybodaeth am barcio a’r bws Sherpa a diagram wedi’i braslunio o’r wahanol lwybrau. Mae Llwybr Llanberis, 5 milltir bob ffordd, yn dechrau yn y pentref ar ben pellaf Rhes Victoria. Peidiwch â chymryd y car na fyddwch yn ei gael yn y maes parcio heb archebu lle parcio ymlaen llaw. Cliwich yma i bwcio.
Mae’r bws Sherpa yn mynd â chi i Ben y Pass i ddechrau Llwybr Pen y Gwryd (Pyg) a Llwybr y Mwynwyr. Peidiwch â mynd a’ch car, gan na fyddwch chi’n cael i mewn i’r maes parcio. Mae’n wasanaeth dibynadwy a rheolaidd iawn, ac yn costio £2 am daith sengl a £5 am docyn diwrnod. Ewch https://snowdonia.gov.wales/visit/plan-your-visit/snowdon-sherpa/
Mae taith dawelach i’w chael wrth gymryd Ffordd Capel Coch oddi ar y Stryd Fawr wrth yr Outdoor Shop, cerdded i fyny allt serth i’r Hostel Ieuenctid, ac yna dilyn y trac i Fwlch Maesgwm. Bydd hyn yn eich arwain at Lwybr Llyn Cwellyn. Mae’n daith hirach na Llwybr Llanberis, ond yn llawer llai poblogaidd ac felly’n dawelach.
Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn gwirio rhagolygon y tywydd cyn gadael, www.mwis.org.uk/english-welsh-forecast/SD/Ewch â digon o ddillad, dillad gwrth ddŵr, hetiau a menig a haenau o ddillad fel y gallwch eu gwisgo a’u tynnu yn ôl yr angen. Mae esgidiau addas yn hanfodol gyda phatrwm troedio da.
Ewch a digon o fwyd a diod – hyd yn oed ar ddiwrnodau oer mae angen i chi yfed digon o hylifau, a dŵr sydd orau. Rydych chi’n gallu dadhydradu’n gyflym iawn wrth gerdded, a bydd eich gallu i barhau yn gwaethygu. Mae bwyd yn gwneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o egni, ac mae bwyta dipyn bach yn aml yn gyngor da i gynnal eich lefelau egni.
Peidiwch â mentro – os nad ydych chi’n gallu defnyddio map a chwmpawd, mae’n bosibl y byddwch chi’n cael eich dal os yw’r tywydd yn troi. Ewch yn ôl mewn digon o amser; bydd y mynyddoedd yn dal i fod yno yfory.
Mae digon o gyngor ar gael yn yr holl siopau dringo ac awyr agored lleol gan fod eu staff yn treulio llawer o amser ar y mynyddoedd.
Mae beicio mynydd i lawr yr Wyddfa yn brofiad na allwch chi ei fethu, ond peidiwch ag anghofio pa mor fawr yw’r her hon.
Y ddau lwybr i’w defnyddio yw Llwybr Llanberis a Llwybr Llyn Cwellyn. Mae angen i chi fod yn feiciwr cymwys a phrofiadol. Mae’r llwybrau hyn yn ‘ddu’ a ‘dwbl du’ o ran anhawster (yn y drefn honno) (Os nad ydych chin gwybod beth yw ystyr hyn, ydych chi’n barod i feicio’r mynydd?)
Mae’r ddau lwybr yn destun gwaharddiad beicio gwirfoddol o 10am i 5pm o ddechrau mis Mai hyd at ddiwedd mis Medi. Mae’n ffordd wych i dreulio noson o haf a does dim yn eich atal rhag mynd a’ch beic cyn 5pm, cyn belled â’ch bod chi ddim yn beicio i fyny.
Mae dilyn y gwaharddiad gwirfoddol yn gwneud synnwyr gan fod beicio yn llawer mwy peryglus gyda llawer o gerddwyr ar y llwybr. Mae gofyn i feicwyr (o dan Ddeddf Cefn Gwlad 1968) roi blaenoriaeth i gerddwyr a phobl sydd ar geffylau ar bob adeg.
© Hawlfraint 2024 - Grŵp Datblygu Llanberis - Gwefan gan Delwedd
Credydau lluniau: Diolch i Paul Sivyer, Mireille Charnock, Emlyn Baylis, Hefin Owen a Dylan Cadwalider Parry