HistoryPoints QR codes (Cyfieithiad yma'n fuan) Look out for HistoryPoints QR codes at scores of places in the Llanberis area. Scan the codes with your mobile to read a brief history of each featured building, ruin, memorial, structure or site. You'll find sequences of the QR codes along popular paths, including the traffic-free route alongside Llyn Padarn and the main paths at the old Dinorwig slate quarry. |
|
Y Cleddyf - “Llafn y Cewri”Cleddyf 20 troedfedd i gofnodi pwysigrwydd Llanberis a’i chysylltiadau gyda Thywysogion Gwynedd. Bwriad y cerflun yw codi ymwybyddiaeth o hanes Gwynedd a Chymru fel cenedl. Mae'r dyluniad yn seiliedig ar y math o gleddyf y byddai Tywysogion Gwynedd wedi eu defnyddio yn y drydedd a phedwaredd ganrif ar ddeg. |
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Peiriannyddol Fictoraidd a fu unwaith yn gwasanaethu a chynnal chwarel lechi enfawr Dinorwig uwch ei phen. Roedd y gweithdai'n darparu ar gyfer yr holl waith atgyweirio a chynnal a chadw oedd ei angen gan y chwarel, a oedd unwaith yn cyflogi ymhell dros 3,000 o ddynion. O’r 4ydd Tachwedd 2024 bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn cau er mwyn cychwyn ar broject ailddatblygu fydd yn rhoi bywyd newydd i’r amgueddfa boblogaidd. Bydd yn gwarchod yr adeiladau hanesyddol gwych a chasgliadau pwysig sydd yno fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu profi a mwynhau hanes anhygoel llechi. Mae llawer i’w wneud, felly mae angen cau’r Amgueddfa dros dro er mwyn gwneud yr holl waith cadwraeth ac adnewyddu yn ddiogel ac i ddiweddaru’r arddangosfeydd a’r arddangosiadau. Ond fydd pethau ddim yn segur yn ystod y cyfnod cau! Yn 2025 bydd yr Amgueddfa yn mynd ar daith, yn gweithio gyda partneriaid, ac yn ymddangos dros dro mewn llefydd cyfagos, o atyniadau lleol i ddigwyddiadau cymunedol. Bydd yr Amgueddfa yn ailagor yn 2026. Dilynwch yr ailddatblygiad yma: https://amgueddfa.cymru/llechi/ailddatblygu ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:
llechi@amgueddfacymru.ac.uk / www.amgueddfa.cymru/llechi Ariennir prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru gyda nawdd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU trwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru a a chyllidwyr eraill.
|
Ysbyty’r Chwarel Amgueddfa sy’n gartref i ward wedi’i adnewyddu, theatr llawdriniaeth a wahanol offer erchyll o ysbytai yn y 19eg ganrif. Cafodd ei adeiladu’n wreiddiol ar gyfer y dynion a oedd yn gweithio yn y chwarel, yna cafodd ei ymestyn i gynnwys aelodau’r teulu a’r cyhoedd. Ar agor yn ystod y tymor. |
Mae Parc Gwledig Padarn yn ymestyn dros 800 o erwau ar lan Llyn Padarn. Mae Coed Dinorwig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn cynnwys o fewn ei ffiniau hen goed derw digoes, coed bedw, coed cerdin, celyn a choed cyll prin. Mae clychau’r gog yn y gwanwyn, a llawer o blanhigion sy’n gorchuddio’r ddaear, rhedyn, cennau a mwsoglau, yn cynnig cartrefi a chynefinoedd i fywyd gwyllt ac adar gan gynnwys cnocell y coed a gwybedion ymhlith y rhai mwyaf prin. Gellir gweld ystlumod pedol lleiaf, pipistrelle cyffredin a daubenton yn Chwarel Vivian ac uwchben Llyn Padarn. Cyfeiriad: Llyn Padarn, Llanberis, LL55 4TY |
*Taith fyrrach dros dro i deithwyr 7 Medi 2025 - 1 Tachwedd 2026 Oherwydd prosiect hanfodol ailosod cebl tanddaerol Grid Cendlaethol sydd wedi bod yn mynd ymlaen ym mhentref Llanberis a'r cyffiniau ers dechrau 2021, bydd Rheilffordd Llyn Padarn yn trosglwyddo darn sylweddol o'r rheilffordd i Grid Cenedlaethol fel y gallant ailosod y ceblau sy'n rhedeg o dan trac y rheilffordd. Bydd hyn yn golygu o 7 Medi 2025 - 1 Tachwedd 2026, y bydd y rheilffordd yn gweithredu gwasanaeth trên teithwyr byrrach o'r brif orsaf ar Banc Gwledig Padarn i'n gorsaf yn Llanberis ac i'r gwrthwyneb, taith o oddeutu 1/2 milltir. Darganfyddwch apêl bythol un o Drên Bach Mawr Cymru – ffordd hamddenol o deithio ochr yn ochr â Llyn Padarn. Ar agor o fis Mawrth i ddiwedd mis Hydref gyda gwasanaethau ychwanegol ym mis Chwefror a mis Tachwedd, teithiau Siôn Corn ym mis Rhagfyr. Cyfeiriad: Gilfach Ddu / Padarn Country Park,
Llanberis,
LL55 4TY |
Rheilffordd yr Wyddfa Saesneg yn unig.... Take a once in a lifetime adventure on the Snowdon Mountain Railway which has been described as one of the most scenic railway journeys in the world. Trains depart from Llanberis Station and begin their climb to the summit of Snowdon, Yr Wyddfa, a journey experienced by million’s travellers since 1896. The railway operates from spring until the end of October, see website for operating days. Two services are available, the Traditional Diesel Service and Heritage Steam Experience. With stunning scenery and awe-inspiring views, it’s all part of a great day out for you and your family in Llanberis. Advance booking highly recommended. Cyfeiriad: Snowdon Mountain Railway, Llanberis, Gwynedd, LL55 4TU
|
Pysgota Mae brithyll a draenogiaid yn niferus iawn yn Llyn Padarn, yn ogystal a'r pysgodyn hanesyddol y Torgoch.Bydd eog a sewin hefyd yn y llyn o ddechrau't haf ymlaen.Gellir prynu tocyn pysgota fesul diwrnod,wythnos neu'r tymor.Tymor yn ymestyn o 20fed Mawrth i'r 17il Hydref. Siop Menter Fachwen, Stryd Fawr Llanberis 01286 870681, a Siop Spar, London Garage, Cwm y Glo- agored 07.00-21.00 https://www.fishingpassport.co.uk/fishing/upland-llyns/llyn-padarn-sgll-fishing-society Am wybodaeth pellach : |
Y GlynYn y Glyn, gall ymwelwyr ddefnyddio’r pontŵn i lansio’r caiacs a mwynhau nofio yn nyfroedd Llyn Padarn sydd â dynodiad dŵr ymdrochi Ewropeaidd. O’r Glyn, mae hefyd yn bosibl ymuno â’r llwybr beicio cyfagos ‘Lôn Las Peris’, mwynhau’r bywyd gwyllt a’r pysgod lleol gyda thrwydded ddilys. |
Pwyll, enwedig gyda plant ifanc pan ymweld ar rhaeadr ,mae’r llwybyr yn rhedeg yn gyfochrog gyda’r afon |
Eglwys Sant PadarnAr y Stryd Fawr yng nghalon y pentref, mae’r eglwys yn dyddio’n ôl i 1885. Mae ar agor i ymwelwyr o 1 Mawrth i 30 Medi o 10.00 i 17.00. 1 Hydref hyd at ddiwedd mis Chwefror 10.00 i 15.00. Gwasanaeth dydd Sul 11.00 |
Llafn y CewriMae'r cleddyf a welwch ger llaw yn coffau cyfraniad Tywysogion Gwynedd i dreftadaeth yr ardal ac i hanes Cymru. Seiliwyd y dyluniad ar gleddyf a fyddai wedi cael ei defnyddio gan Dywysogion Gwynedd ac sy'n dyddio'n ol i'r drydedd ganrif ar ddeg a'r bedwaredd ganrif ar ddeg. |
© Hawlfraint 2025 - Grŵp Datblygu Llanberis - Gwefan gan Delwedd
Credydau lluniau: Diolch i Paul Sivyer, Mireille Charnock, Emlyn Baylis, Hefin Owen a Dylan Cadwalider Parry